 |
Croeso i Blas Tirion, fferm deuluol brysur a saif yng nghanol 300 erw o borfeydd breision yr iseldir. Mae'r fferm mewn lleoliad perffaith hanner ffordd rhwng Llanberis a Chaernarfon, o fewn tafliad carreg o harddwch ac antur mynyddoedd Eryri.
Yma, cewch fwynhau heddwch a thawelwch, a chyfle i ddianc rhag popeth. Ar yr un pryd mae'n lle delfrydol i fynd ati i archwilio prif atyniadau gogledd Cymru. Beth am fynd ar daith o gwmpas Castell Caernarfon, cerdded i gopa'r Wyddfa, neu ymlacio ar un o draethau prydferth yr ardal. Beth am adael y car a cherdded neu feicio dros y Clegir i Lanberis.
Byddwn yn rhoi ein holl wybodaeth am yr ardal leol ar waith i'ch helpu chi i wneud y mwyaf o'ch seibiant yn Eryri.
Cymrwch gip ar ein gwefan am wybodaeth am lety, costau a syniadau am weithgareddau yn yr ardal.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bod eisiau rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:-
Mrs Cerid Mackinnon
Fferm Plas Tirion
Llanrug
Caernarfon
Gwynedd
LL55 4PY
Ffôn: 01286 673 190
E-bost: cerid@plastirion.plus.com
|